Pontyclun FC

Clwb Pêl-droed Pontyclun

Pontyclun FC

Mae Clwb Pêl-droed Pont-y-clun wedi bod yn rhan o fyd pêl-droed De Cymru ers dros ganrif ar ôl cael ei sefydlu ym 1896.

Dydyn ni ddim yn siŵr ble chwaraeodd y Clwb ei gemau cartref cynharaf – yn Nhal-y-garn o bosib – ond mae tystiolaeth yn dangos i Barc Ifor ddod yn gartref i’r clwb ym 1920 pan roddodd Wyndham Damer Clark, gynt o Dŷ Tal-y-garn, ganiatâd i’r Clwb ddefnyddio’r tir fel cae pêl-droed.

Ym 1922 derbyniwyd y Clwb i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, un o’r ychydig glybiau amatur i ennill statws o’r fath. Ym 1968 ymunodd y Clwb â Chynghrair Bêl-droed Cymru.

Ym 1968, roedd Cynghrair Bêl-droed Cymru yn edrych yn go wahanol i heddiw. Roedd tua 54 o dimau’n cystadlu mewn tair adran ac roedd yr “Uwch Gynghrair” yn cynnwys ail dimau Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. O’r 54 tîm yn y gynghrair y tymor hwnnw, mae llai na 15 wedi goroesi hyd heddiw.

Roedd cyn-aelod ac ysgrifennydd y Clwb yn y 1920au a’r 1930au, Thomas Edgar “Eddie” Russell, yn weinyddwr dylanwadol ym myd pêl-droed Cymru a daeth yn Ysgrifennydd ar Gymdeithas Bêl-droed De Cymru (1936 i 1960) ac yn ddiweddarach yn Llywydd ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru (1967 i 1972).

Chwaraeodd ran hefyd ym mhenderfyniad y Gymdeithas i ddefnyddio arwyddair Clwb Pêl-droed Pont-y-clun ar y bathodyn cenedlaethol – Gorau Chwarae Cyd Chwarae.

Ymddangosodd hwn gyntaf ar grys Cymru ym 1951 yn ystod dathliad 75 mlwyddiant y Gymdeithas yn erbyn XI Prydain Fawr ac mae yma o hyd. Mae ei ddylanwad wedi mynd o nerth i nerth, gyda’r arwyddair yn ysbrydoliaeth i ymgyrch Gyda’n Gilydd yn Gryfach y Gymdeithas, a wnaeth gyfraniad pwysig at ddiwylliant Cymru a llwyddiant tîm y dynion yn cyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016 yn Ffrainc – moment fawr yn hanes ein gwlad.

Cafodd Keith Pontin (1956-2020), a aned ym Mhont-y-clun, ei flas cyntaf ar bêl-droed fel chwaraewr ieuenctid gyda’r Clwb cyn symud i chwarae dros Gaerdydd, Merthyr Tudful a’r Barri. Chwaraeodd hefyd dros dîm cyntaf Pont-y-clun, gan orffen ei yrfa ym Mharc Ifor.

Enillodd Keith 2 gap rhyngwladol llawn dros Gymru, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Lloegr ym mis Mai 1980.

Mae mwy o wybodaeth am y clwb ar gael ar wefan y clwb yma

Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein