Gorsaf Reilffordd Pontyclun

Pontyclun Railway station old picture
Gorsaf rheilfordd Pontyclun

Agorwyd gorsaf Pont-y-clun am y tro cyntaf ar 18 Mehefin 1850 fel Llantrissant ar gyfer y Bont-faen, rhan o Reilffordd De Cymru rhwng Cas-gwent ac Abertawe. Roedd yn orsaf fawr, gyda dau blatfform a baeau canolog ar gyfer llinellau cangen.

Helpodd yr orsaf i ddatblygu diwydiant a masnach leol fel gwaith tunplat Trelái, The Pipeworks, a Steam Joinery Company sydd wedi’u lleoli o amgylch Pontyclun. Roedd yn gwasanaethu mwyngloddiau lleol fel gweithfeydd mwyn haearn Bute Haematite a Mwyndy.

Dros y blynyddoedd, tyfodd yr orsaf yn gyffordd bwysig:

  • 1860: Agorwyd Rheilffordd Cwm Trelái i Donyrefail, gyda gwasanaethau i deithwyr o 1865
  • 1862: Agorwyd llinell gangen i Glofa Brofiskin i wasanaethu mwyngloddiau mwyn haearn lleol
  • 1864: Agorwyd Rheilffordd Cyffordd Llantrisant a Chwm Taf, gan gynnwys llwybr teithwyr i Bontypridd
  • 1865: Agorodd Rheilffordd y Bont-faen derfynfa gerllaw’r brif orsaf, gan gynnig gwasanaethau i deithwyr i Fro Morgannwg.

Wrth i’r traffig gynyddu, ychwanegwyd siediau peiriannau ym 1872 a’u disodli gan siediau mwy a throfwrdd ym 1900. Cafodd enw’r orsaf ei symleiddio i Lantrisant tua 1866, er wrth i’r dref dyfu cafwyd dadl erbyn 1907 am ei newid i Bontyclun.

Dros y blynyddoedd unwyd llawer o’r cwmnïau rheilffordd a oedd yn defnyddio’r orsaf tan yn y diwedd unwyd Rheilffordd y Great Western â Rheilffordd Dyffryn Taf ym 1922. Cafodd yr orsaf ei hailadeiladu’n llwyr wedyn gyda dau blatfform canolog newydd, gan ailagor yn 1925. 

Gwelwyd dirywiad ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gyda llinell y Bont-faen yn cau ym 1951, rheilffordd Pontypridd ym 1952, a llwybr Tonyrefail ym 1958. Caeodd yr orsaf ei hun yn 1964 fel rhan o “doriadau Beeching”. Arhosodd y llinellau ar agor ar gyfer traffig glo a mwynau tan 1984.

Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach ailagorwyd yr orsaf o dan yr enw Pontyclun ar 28 Medi 1992wedi’i ailadeiladu  gan British Rail a Chyngor Canol Morgannwg.

Bellach mae’n eiddo i Network Rail gyda gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan Drafnidiaeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am hanes y rheilffyrdd ym Mhontyclun gallwch ymweld â’r safle hwn

Yn agos i’r Orsaf fe welwch dair tafarn hanesyddol

The Brunel Arms
Great Western Railway boundary marker

Y Brunel

Daeth yr adeilad yma’n dafarn yn y 1980au. Cyn hyn, hwn oedd Clwb Cymdeithasol Pont-y-clun a chyn hynny roedd yn Fwyty GWR i staff y rheilffordd.

Gallwch weld atgof diddorol o hanes yr orsaf ger tafarn. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch hen farciwr ffin o ddyddiau Great Western Railway.

The Bute Arms

Tafarn y Bute

Ar gyffordd yr orsaf a Heol y Bont-faen saif tafarn y Bute. Cafodd ei henwi ar ôl yr Arglwydd Bute, tirfeddiannwr pwysig yn yr ardal, a oedd yn enwog am ei waith lleol ac yn berchen ar y rhan fwyaf o ddociau Caerdydd.

Mae’r adeilad presennol yn dyddio o ddechrau’r 20fed Ganrif ar ôl disodli tafarn gynharach o’r un enw a adeiladwyd ymhellach ar hyd Heol Llantrisant tua 1850.

Mae bellach yn gartref i fwyty, gwerthwr pysgod a siop ’Sgod a Sglods.

The Windsor circa 2014

Tafarn y Windsor

Dyma’r hynaf o’r tair tafarn ac mae’n dyddio o tua 1850. Ym 1851 y landlord oedd John Matthews o Sain Ffagan.

Yn ystod ei anterth trefnodd y Windsor Arms deithiau cerbydau o amgylch yr ardal gan gynnwys tiroedd Hensol a Thalygarn ar gyfer ymwelwyr â Phont-y-clun. Yng nghefn y safle roedd stablau ar gyfer y ceffylau.

Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein