Miskin Cricket club

Clwb Criced Maenor Meisgyn

Miskin Cricket club

Chwaraewyd criced ym Maenor Meisgyn am y tro cyntaf ym 1882. Yr un cae (Ynys Parc ar y pryd, Glyn Parc yn ddiweddarach) sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y gemau byth ers hynny, ac mae’n siŵr taw dyma un o’r caeau criced prydferthaf yn ne Cymru.

Prynwyd Maenor Meisgyn gan David Williams, Ysw. yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwnaeth lawer i ddatblygu’r tiroedd a’r gerddi. Wedyn daeth ei fab, Gwilym, neu’r Barnwr Anrhydeddus Gwilym Williams yn ddiweddarach, a ddefnyddiodd Maenor Meisgyn fel cartref teuluol. Ei feibion, Rhys a Justin, adeiladodd y cae criced allan o weirglodd (neu gae gwair).

Tarfodd y Rhyfel Byd (1914-18) ar griced ym Meisgyn, ac ni chafodd gêm ei chwarae ar y cae tan 1927-28 yn ôl pob sôn. Yn anffodus, dinistriwyd y maenordy ei hun bron yn llwyr gan dân ym 1922 a chollwyd yr holl gofnodion criced cynnar.

Erbyn dechrau’r 1930au roedd Clwb Meisgyn wedi datblygu’n sylweddol. Roedd ‘tîm Meisgyn’ wedi ennill enw da ond roedd y cyfleusterau’n gyfyngedig; roedd y chwaraewyr yn newid a bwyta mewn pebyll dros dro, tra bod y sgorwyr yn gwneud eu gwaith mewn hen dollty a brynwyd gan Syr Rhys.

Ni chwaraewyd criced yn ystod yr Ail Ryfel Byd chwaith gan fod y rhan fwyaf o’r aelodau’n gwasanaethu yn y fyddin, gyda phum aelod yn colli eu bywydau yn y brwydro.

Ym 1946 dychwelodd llawer o aelodau o’r fyddin, ynghyd â llwyth o newydd-ddyfodiaid. Diwygiwyd y clwb gyda Mr. Rhys Jenkins yn Gadeirydd a Mr. W. Gurnos Jones yn Ysgrifennydd. Darparwyd cyfleusterau newid a bwyta unwaith eto mewn pabell fawr, a defnyddiwyd offer go gyntefig i gynnal a chadw’r tiroedd.

Nid oedd llawer o arian gan y Clwb o gwbl. Fodd bynnag, dan arweiniad brwdfrydig eu Cadeirydd, daeth yr aelodau ynghyd yn eu hymdrechion i godi cofeb addas i’w cyfeillion a gollwyd. Codwyd digon o arian i adeiladu pafiliwn sy’n dal i gael ei ddefnyddio.

Ar y cae chwarae, roedd enw da cynnar y clwb yn cael ei adennill yn gyflym. Gyda’r cyfleusterau gwell, bu’n bosibl i’r chwaraewyr gystadlu yn erbyn clybiau cryfach, a oedd yn cael eu hannog i chwarae yng Nglyn Parc. Cofrestrodd Viv Williams 100 cyntaf y Clwb wedi’r rhyfel ym 1948.

Ym 1948 ffurfiodd y Clwb bartneriaeth â Chlwb Criced Morgannwg, a arweiniodd at ailddechrau gemau cartref yn erbyn XI Sirol cynrychioliadol, trefniant a barodd ymhell i mewn i’r 1950au.

Ym 1953 enillodd Meisgyn Gystadleuaeth Rowndiau Terfynol Blwyddyn y Coroni wedi’u noddi gan C.D.Rh. Llantrisant a Llanilltud Faerdre ac, yn yr un flwyddyn, lansiwyd Cystadleuaeth Cwpan Criced Pont-y-clun a gynhaliwyd am 15 tymor yn olynol. Enillodd Meisgyn y Cwpan fwy o weithiau nag unrhyw glwb arall a gymerodd ran yn y Gystadleuaeth.

Ar ddiwedd y 1950au dewiswyd tri aelod ifanc o’r Clwb i gynrychioli Ysgolion Uwchradd Cymru ac ym 1958 mwynhaodd yr XI Cyntaf eu tymor gorau yn hanes cofnodedig y Clwb ar y pryd. Gorffennodd y tîm cyntaf y tymor heb golli gêm, gan ennill Cwpan Pont-y-clun am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Ym 1962 cynhaliwyd y daith gyntaf i dde Dyfnaint, ac mae teithiau o’r fath wedi parhau byth ers hynny. I ddechrau, roedd pedair gêm yn cael eu chwarae, ond codwyd hyn i chwech ar ôl agor Pont Hafren.

Dechreuodd y 1970au gyda’r Clwb yn gwneud estyniadau ac addasiadau sylweddol i’r pafiliwn a gwelliannau cyffredinol i’r tiroedd.

Ar ôl ei farwolaeth, rhoddodd teulu Trevor Thomas £500 i’r Clwb ac fel teyrnged i’w wasanaeth i’r Clwb a chyda dymuniadau ‘T M’ mewn golwg, lansiwyd cronfa apêl a arweiniodd at godi bocs sgorio parhaol. Fe’i hagorwyd yn swyddogol ym mis Awst 1977 pan groesawodd Meisgyn dîm dan arweiniad Tony Lewis (cyn-gapten Lloegr a Morgannwg).

Pa bynnag lwyddiannau a ddaeth yn y gorffennol, mae’n siŵr taw 1977 yw’r tymor disgleiriaf yn hanes y Clwb. Enillodd yr XI Cyntaf a’r Ail XI eu Cynghreiriau perthnasol yng Nghynghrair Ardal Criced Sirol Gwent.

Ym Mhencampwriaeth y Pentrefi, cyrhaeddodd Meisgyn yr 16 olaf (o 835 o gystadleuwyr) ac ennill rownd derfynol Ardal De Cymru. Wedi’u cyffroi gan y fath lwyddiant, teithiodd tua 300 o gefnogwyr i Coalpit Heath, ger Bryste i’w sbarduno i fuddugoliaeth ond yn y rownd nesaf fe gawson nhw eu trechu gan Cookley, a aeth ymlaen i ennill y Bencampwriaeth.

Ym 1978 ymunodd Meisgyn â Chyngres Criced Cwpan Cymru – lefel uwch o gystadlu.

Erbyn heddiw mae’r clwb yn un o gonglfeini’r byd chwaraeon lleol gyda thimau iau a merched yn chwarae yn ogystal â thîm y dynion.

Mae rhagor o wybodaeth am y clwb a hanes manylach i’w gweld ar eu gwefan

Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein